Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
10.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11067
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
2.1 SL(5)759 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021
2.2 SL(5)760 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021
2.3 SL(5)761 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021
2.4 SL(5)762 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021
2.5 SL(5)763 - Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021
2.6 SL(5)765 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021
2.7 SL(5)766 - Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021
2.8 SL(5)768 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)752 - Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Lywodraeth Cymru egluro ei hymateb ymhellach
3.2 SL(5)755 - Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)764 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)767 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.5 SL(5)771 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)735 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4.2 SL(5)744 – Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4.3 SL(5)751 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4.4 SL(5)754 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gweithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
5.2 Llythyr gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: Swyddfa’r Farchnad Fewnol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
5.3 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Rheoliadau newid yn yr hinsawdd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
5.4 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cyfarfod Gweinidogion i drafod sector gwaith cynhwysiant digidol, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
5.5 Llythyr gan y Llywydd: Rheolau Sefydlog drafft i ddarparu gweithdrefn ar gyfer Biliau Cydgrynhoi
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.
5.6 Gohebiaeth â Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a Diod (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod y materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Lluoedd Arfog - trafod y materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
9 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
10 Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor y drafft cyntaf o’r adroddiad gwaddol a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.